Canlyniad:
1af Alwena Mair Owen — Llanllwni
2il Malena Gwynn Aled — Bala
3ydd Sali Mair — LLANGEFNI
Beirniaid: Elfair Grug, Chris Marshall, Elin Edwards, Gavin Saynor ac Iwan Llewelyn-Jones
Gwobrau:
- £60 (Cwt Tatws)
- £30
- £20
(£50 Merched y Wawr Pistyll)
Gofynnir i’r cystadleuwyr yn y cystadlaethau a ganlyn ddewis rhaglen o un darn neu fwy. Ni ddylai’r rhaglen gyflawn fod yn hwy na 10 munud. Mae pob cystadleuydd yn gyfrifol am ei gyfeilydd ei hun. Ni ddarperir cyfeilydd swyddogol. Bydd pedwar cystadleuydd o blith cystadlaethau 68-73 yn cystadlu am y Rhuban Glas. Cynhelir y cystadlaethau hyn yn yr un ganolfan, y naill ar ôl y llall, o flaen panel o feirniaid.