Catalogau Y Lle Celf

Y Lle Celf yw'r oriel gelfyddydau gweledol ar faes yr Eisteddfod.  Mae'n ddathliad o gelfyddyd yng Nghymru ac yn cyfuno gwaith artistiaid newydd a chydnabyddedig.

Ynghyd ag annog gwerthfawrogiad, dealltwriaeth a hyrwyddo casglu gwaith celf, wrth ddathlu dyfeisgarwch ac ymroddiad, mae’r arddangosfa yn Y Lle Celf yn cynnig drych o’r hyn sy’n digwydd ym myd y Celfyddydau Gweledol yng Nghymru ar adeg benodol.

Mae gan Y Lle Celf ei gwsmeriaid blynyddol ac mae rhyw fri i brynu gwaith celf yn yr Eisteddfod ac mae modd i artistiaid feithrin cefnogwyr. Dros y degawd diwethaf, mae Y Lle Celf ac adran celfyddydau gweledol yr Eisteddfod Genedlaethol wedi cyfrannu dros £200,000 i'r economi yng Nghymru.

Y Lle Celf mewn 3D - Dyma deithiau o amgylch arddangosfeydd Y Lle Celf y gorffennol.

Gellir lawrlwytho catalogau o'r gorffennol ar waelod y dudalen hon.

 

Catalog 2007 Lawrlwytho
Catalog 2008 Lawrlwytho
Catalog 2009 Lawrlwytho
Catalog 2010 Lawrlwytho
Catalog 2011 Lawrlwytho
Catalog 2012 Lawrlwytho
Catalog 2013 Lawrlwytho
Catalog 2014 Lawrlwytho
Catalog 2015 Lawrlwytho
Catalog 2016 Lawrlwytho
Catalog 2017 Lawrlwytho
Catalog 2018 Lawrlwytho
Catalog 2019 Lawrlwytho
Catalog 2022 Lawrlwytho
Catalog 2023 Lawrlwytho