Heddiw, cyhoeddodd yr Eisteddfod Genedlaethol fanylion y briff i greu Cadair a Choron Eisteddfod y Garreg Las, a chynhelir yn Llantwd, Sir Benfro o 1-8 Awst y flwyddyn nesaf
Mae’r Goron yn rhoddedig gan deulu’r Parch WJ Gruffydd (Elerydd) a Mrs Jane Gruffydd er cof, ac mewn gwerthfawrogiad o deyrngarwch a haelioni aelwydydd bro’r Eisteddfod yn ystod eu gweinidogaeth yn yr ardal. Cyflwynir y Gadair gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.
Bu’r cyn-archdderwydd Elerydd, Y Parch WJ a Mrs Jane Gruffydd yn gweinidogaethu gydag enwad y Bedyddwyr ym mro’r Eisteddfod am dros chwarter canrif. Dyw hi ddim yn syndod iddyn nhw aros cyhyd oherwydd mi fyddai WJ yn sôn yn aml fel yr oedd pobl a thirwedd bro’r Preseli yn debyg iawn i bobl a thirwedd bro enedigol y ddau yn ardal Ffair Rhos a Pontrhydfendigaid yng ngogledd Ceredigion.
Mae’r ddihareb, ‘aur o dan yr eithin, arian dan y rhedyn, newyn dan y grug’ yn hynod o berthnasol oherwydd gwaddol y tir a’i phobl oedd ysbrydoliaeth pryddestau Elerydd, ac a ddaeth iddo Goronau eisteddfodol Pwllheli (1955) a Chaerdydd (1960).
At hynny, mae’r afon Teifi yn tarddu yn Llyn Teifi uwchlaw Ffair Rhos ac yn gwlychu ei thraed yn y môr ger Aberteifi nid nepell o fro a maes yr Eisteddfod. Eto mae ‘carreg las’ y Preselau mor wydn a digyfaddawd a mwyngloddiau plwm bro ei febyd.
Bardd, nofelydd a llenor, ond er ei orchestion eisteddfodol, mae’n siŵr y caiff ei gofio fel ‘tad’ y ddau gymeriad hoffus Tomos a Marged a anfarwolwyd ar dudalennau papurau lleol, y Cardigan & Tivy-side Advertiser a’r Cambrian News.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro’n awyddus i sicrhau fod yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda disgyblion, sy’n dilyn cwrs TGAU, yn ysgolion yr ardal, ynghyd â rhanddeiliaid eraill, fel rhan o’r broses o ddylunio a chreu’r Gadair.
Mae’r Parc hefyd yn gobeithio y bydd modd i’r Gadair gael ei chreu o bren o’r Parc ei hun os yw’n addas.
Wrth gyhoeddi’r galwad agored am y Gadair, dywedodd Tegryn Jones, Prif Weithredwr y Parc, “Mae’n bleser gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro noddi Cadair Eisteddfod y Garreg Las 2026. Rydym yn edrych ymlaen at gomisiynu unigolyn talentog a fydd yn medru creu Cadair unigryw a fydd yn adlewyrchu iaith, amgylchedd, treftadaeth a diwylliant y Parc Cenedlaethol, Sir Benfro a dalgylch ehangach yr Eisteddfod.”
Mae manylion briff y Gadair a’r Goron ar gael ar wefan yr Eisteddfod, www.eisteddfod.cymru, ynghyd â sut i ddatgan diddordeb a chyflwyno syniadau i’w hystyried gan Fwrdd yr Orsedd. Y dyddiad cau yw 17:00 dydd Llun 12 Mai.