Yn agored i unrhyw ddysgwr 18 oed a throsodd sydd yn siarad Cymraeg yn eithaf hyderus. Gallwch hunan-enwebu neu dderbyn enwebiad gan diwtor, aelod o'r teulu, cyfaill neu gyfoed drwy gyflwyno ffurflen ar-lein ar wefan yr Eisteddfod.

Mae modd sôn am y canlynol:

  • teulu a diddordebau
  • rheswm dros ddysgu Cymraeg
  • sut yr aeth y dysgwr ati i ddysgu’r iaith
  • effaith dysgu Cymraeg ar fywyd y dysgwr a’r defnydd mae’n ei wneud o’r Gymraeg
  • gobeithion ar gyfer y dyfodol.

Y rownd gynderfynol i’w chynnal yn rhithiol mewn partneriaeth gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Beirniaid y rownd gynderfynol: Karl Davies, Kevin Knox a chynrychiolydd o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg
Beirniaid y rownd derfynol: Karl Davies, Kevin Knox a Mirain Iwerydd

Gwobr: Tlws Dysgwr y Flwyddyn (yn rhoddedig gan Gymdeithas Waldo) a £300 (Geraint a Siân James, Siop Awen Teifi, Aberteifi)

Caiff yr enillydd wahoddiad i fod yn aelod o’r Orsedd ynghyd â gwahoddiad i ymuno â Phanel Dysgwyr yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn ogystal, ceir rhoddion gan fudiad Merched y Wawr

Dyddiad cau i dderbyn enwebiadau drwy wefan yr Eisteddfod:

Dyddiad cau: 1 Mai 2026 am ganol dydd

Rheolau ac amodau cyffredinol

Dangos

Amodau arbennig yr adran hon