Yn agored i unrhyw ddysgwr 18 oed a throsodd sydd yn siarad Cymraeg yn eithaf hyderus. Gallwch hunan-enwebu neu dderbyn enwebiad gan diwtor, aelod o'r teulu, cyfaill neu gyfoed drwy gyflwyno ffurflen ar-lein ar wefan yr Eisteddfod.
Mae modd sôn am y canlynol:
- teulu a diddordebau
- rheswm dros ddysgu Cymraeg
- sut yr aeth y dysgwr ati i ddysgu’r iaith
- effaith dysgu Cymraeg ar fywyd y dysgwr a’r defnydd mae’n ei wneud o’r Gymraeg
- gobeithion ar gyfer y dyfodol.
Y rownd gynderfynol i’w chynnal yn rhithiol mewn partneriaeth gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Beirniaid y rownd gynderfynol: Karl Davies, Kevin Knox a chynrychiolydd o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg
Beirniaid y rownd derfynol: Karl Davies, Kevin Knox a Mirain Iwerydd
Gwobr: Tlws Dysgwr y Flwyddyn (yn rhoddedig gan Gymdeithas Waldo) a £300 (Geraint a Siân James, Siop Awen Teifi, Aberteifi)
Caiff yr enillydd wahoddiad i fod yn aelod o’r Orsedd ynghyd â gwahoddiad i ymuno â Phanel Dysgwyr yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn ogystal, ceir rhoddion gan fudiad Merched y Wawr
Dyddiad cau i dderbyn enwebiadau drwy wefan yr Eisteddfod:
Dyddiad cau: 1 Mai 2026 am ganol dydd