Cynigir £600 o Ysgoloriaeth Goffa Wilbert Lloyd Roberts i’r cystadleuydd mwyaf addawol yn y gystadleuaeth Unawd o Sioe Gerdd i rai 19 oed a throsodd neu Gwobr Richard Burton er mwyn iddo/iddi ddatblygu gyrfa fel perfformiwr theatrig proffesiynol.
Ni all unrhyw un dderbyn yr un ysgoloriaeth fwy nag unwaith, ond gellir cystadlu fwy nag unwaith i ennill y gwobrau. Gweler Rheolau ac Amodau Cyffredinol, rhif 21.