Beirniaid: Julian Wilkins, Katie Thomas a Lyn Davies
Unrhyw gyfuniad o leisiau i gyflwyno dau ddarn cyferbyniol hunanddewisiad hyd at 8 munud.
Diben y gystadleuaeth yw annog a chyflwyno corau newydd, corau sydd wedi ffurfio'n arbennig, corau cymunedol neu gorau sydd heb gystadlu o’r blaen i gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Dim ond unwaith caiff côr gystadlu yn y gystadleuaeth hon.
Gwobrau:
- £500 (Côr Godre’r Garth, er cof am aelodau annwyl a gollwyd)
- £300 (Côr Philharmonic Caerdydd, i nodi bod y côr wedi cychwyn fel Côr Eisteddfod Caerdydd, 1978, wrth i’r côr ddod i ben)
- £200 (Charles a Margaret Morris, Trecynon, gan Mair Treharne a Huw Morris a'u teuluoedd)