Beirniaid: Julian Wilkins, Katie Thomas a Lyn Davies

Unrhyw gyfuniad o leisiau i gyflwyno dau ddarn cyferbyniol hunanddewisiad hyd at 8 munud.

Diben y gystadleuaeth yw annog a chyflwyno corau newydd, corau sydd wedi ffurfio'n arbennig, corau cymunedol neu gorau sydd heb gystadlu o’r blaen i gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Dim ond unwaith caiff côr gystadlu yn y gystadleuaeth hon.

Gwobrau:

  • £500 (Côr Godre’r Garth, er cof am aelodau annwyl a gollwyd)
  • £300 (Côr Philharmonic Caerdydd, i nodi bod y côr wedi cychwyn fel Côr Eisteddfod Caerdydd, 1978, wrth i’r côr ddod i ben)
  • £200 (Charles a Margaret Morris, Trecynon, gan Mair Treharne a Huw Morris a'u teuluoedd)

 

Rheolau ac amodau cyffredinol

Dangos

Amodau arbennig yr adran hon