Beirniaid: Bedwyr Williams, Angela Davies ac Anya Paintsil
Dyfernir ysgoloriaeth gwerth £1500 er cof am Dewi Bowen gan ei nith, Elizabeth Bowen i unigolyn sydd wedi bod yn astudio neu weithio fel artist ers llai na 5 mlynedd
Sut i ymgeisio:
Dilynwch y camau canlynol i gyflwyno cais:
- Yn gyntaf, rhaid archebu a thalu’r ffi cofrestru er mwyn cyflwyno eich cais;
- Yna byddwch yn derbyn e-bost awtomatig gan yr Eisteddfod yn syth wedi cwblhau’r archeb;
- Cliciwch ar y ddolen sy’n eich cyfeirio at gyfrif porth artistiaid a chwblhau’r meysydd perthnasol yno.
Gwobr: £1500 (er cof am Dewi Bowen gan ei nith, Elizabeth Bowen)
Dyfernir Ysgoloriaeth Artist Newydd Dewi Bowen gwerth £1500 i’r ymgeisydd mwyaf addawol er mwyn ei (g)alluogi i ddilyn cwrs mewn ysgol neu goleg celf cydnabyddedig neu fynychu dosbarthiadau meistr i ddatblygu gyrfa. Croesawir ceisiadau o bob cyfrwng, boed yn gelfyddyd gain neu'n gelf gymhwysol (gan gynnwys y ddelwedd symudol a'r gelfyddyd berfformio). Ystyrir dangos y gwaith a gyflwynwyd yn Y Lle Celf. Yn ogystal, ystyrir cynnig gofod i enillydd yr ysgoloriaeth i arddangos yn Y Lle Celf, Eisteddfod 2026.
- Cyflwyno cais ar y Porth: Rhaid cyflwyno'r wybodaeth ganlynol er mwyn cwblhau eich cais yn llwyddiannus drwy system gofrestru'r Eisteddfod cyn y dyddiad cau i gynnwys:
- Portffolio o'r gwaith: Gwahoddir ymgeiswyr i gyflwyno hyd at 8 delwedd JPEG/PNG 300 dpi, neu ddolen i waith fideo/ berfformio. Mae hi’n bwysig eich bod yn cyflwyno delweddau clir o’ch gwaith, gan sicrhau fod y gwaith ar gael o 1 Mawrth hyd 14 Awst 2025. I gystadlu, rhaid i’r gwaith fod yn waith a gwblhawyd ers 31 Awst 2023
- Gwybodaeth am bob darn o waith a gyflwynwyd: teitl, cyfrwng, maint (neu hyd amser), dyddiad, a phris (os ar werth)
- Datganiad Artist: Rhaid cynnwys datganiad artist hyd at 300 gair ynglŷn â’r gwaith a gyflwynir, h.y. nid bywgraffiad artist, ond datganiad am y gwaith.
- Datganiad yn esbonio sut y bwriedir defnyddio’r ysgoloriaeth
- Dilysrwydd: Rhaid i’r gwaith a gyflwynir fod yn waith dilys yr ymgeisydd, ac ni ddylai fod wedi’i arddangos mewn unrhyw Eisteddfod Genedlaethol flaenorol.
- Pwy sy'n cael ymgeisio? Bydd yr ysgoloriaeth yn agored geisiadau gan unigolyn sydd wedi bod yn astudio neu weithio fel artist ers llai na 5 mlynedd. Bydd angen i’r artist fod
- wedi’u geni yng Nghymru, neu
- sydd ag un o’u rhieni wedi’u geni yng Nghymru, neu
- sy’n siarad yr iaith neu ysgrifennu'n Gymraeg, neu
- sydd wedi byw neu weithio yng Nghymru ers tair blynedd cyn 31 Awst flwyddyn yr ŵyl.
Dyddiad cau: 3 Mawrth 2025 am ganol dydd
Archebu cais ar gyfer y gystadleuaeth hon