Beirniaid: Bedwyr Williams, Angela Davies ac Anya Paintsil

Dyfernir ysgoloriaeth gwerth £1500 er cof am Dewi Bowen gan ei nith, Elizabeth Bowen i unigolyn sydd wedi bod yn astudio neu weithio fel artist ers llai na 5 mlynedd

Sut i ymgeisio:
Dilynwch y camau canlynol i gyflwyno cais:

  • Yn gyntaf, rhaid archebu a thalu’r ffi cofrestru er mwyn cyflwyno eich cais;
  • Yna byddwch yn derbyn e-bost awtomatig gan yr Eisteddfod yn syth wedi cwblhau’r archeb;
  • Cliciwch ar y ddolen sy’n eich cyfeirio at gyfrif porth artistiaid a chwblhau’r meysydd perthnasol yno.

Gwobr: £1500 (er cof am Dewi Bowen gan ei nith, Elizabeth Bowen)

Dyfernir Ysgoloriaeth Artist Newydd Dewi Bowen gwerth £1500 i’r ymgeisydd mwyaf addawol er mwyn ei (g)alluogi i ddilyn cwrs mewn ysgol neu goleg celf cydnabyddedig neu fynychu dosbarthiadau meistr i ddatblygu gyrfa. Croesawir ceisiadau o bob cyfrwng, boed yn gelfyddyd gain neu'n gelf gymhwysol (gan gynnwys y ddelwedd symudol a'r gelfyddyd berfformio). Ystyrir dangos y gwaith a gyflwynwyd yn Y Lle Celf. Yn ogystal, ystyrir cynnig gofod i enillydd yr ysgoloriaeth i arddangos yn Y Lle Celf, Eisteddfod 2026.

  1. Cyflwyno cais ar y Porth: Rhaid cyflwyno'r wybodaeth ganlynol er mwyn cwblhau eich cais yn llwyddiannus drwy system gofrestru'r Eisteddfod cyn y dyddiad cau i gynnwys:
    • Portffolio o'r gwaith: Gwahoddir ymgeiswyr i gyflwyno hyd at 8 delwedd JPEG/PNG 300 dpi, neu ddolen i waith fideo/ berfformio. Mae hi’n bwysig eich bod yn cyflwyno delweddau clir o’ch gwaith, gan sicrhau fod y gwaith ar gael o 1 Mawrth hyd 14 Awst 2025. I gystadlu, rhaid i’r gwaith fod yn waith a gwblhawyd ers 31 Awst 2023
    • Gwybodaeth am bob darn o waith a gyflwynwyd: teitl, cyfrwng, maint (neu hyd amser), dyddiad, a phris (os ar werth)
    • Datganiad Artist: Rhaid cynnwys datganiad artist hyd at 300 gair ynglŷn â’r gwaith a gyflwynir, h.y. nid bywgraffiad artist, ond datganiad am y gwaith.
    • Datganiad yn esbonio sut y bwriedir defnyddio’r ysgoloriaeth
  2. Dilysrwydd: Rhaid i’r gwaith a gyflwynir fod yn waith dilys yr ymgeisydd, ac ni ddylai fod wedi’i arddangos mewn unrhyw Eisteddfod Genedlaethol flaenorol.
  3. Pwy sy'n cael ymgeisio? Bydd yr ysgoloriaeth yn agored geisiadau gan unigolyn sydd wedi bod yn astudio neu weithio fel artist ers llai na 5 mlynedd. Bydd angen i’r artist fod
    • wedi’u geni yng Nghymru, neu
    • sydd ag un o’u rhieni wedi’u geni yng Nghymru, neu
    • sy’n siarad yr iaith neu ysgrifennu'n Gymraeg, neu
    • sydd wedi byw neu weithio yng Nghymru ers tair blynedd cyn 31 Awst flwyddyn yr ŵyl.

Dyddiad cau: 3 Mawrth 2025 am ganol dydd

Rheolau ac amodau cyffredinol

Dangos

Amodau arbennig yr adran hon

Archebu cais ar gyfer y gystadleuaeth hon

Rhowch enw’r côr, parti, band neu unigolion sy’n cymryd rhan
Swm:
£10.00