Beirniad: David Hayward

Cyflwyno rhaglen hunanddewisiad heb fod yn hwy na 15 munud, a chyda lleiafswm o dair eitem.

    Gwobrau:

    • Her-gwpan Ivor James i’w ddal am flwyddyn a £500
    • £300
    • £200

    Bydd y band buddugol yn yr adran hon yn derbyn gwahoddiad i gynrychioli Cymru yn Adran Bencampwriaeth o Bencampwriaeth Bandiau Pres Ieuenctid Ewrop y flwyddyn ganlynol. Cynhelir Pencampwriaeth 2025 yn Norwy.

    Os yw’r band buddugol eisoes wedi sicrhau ei le yn dilyn cystadleuaeth EYBBC y flwyddyn flaenorol, bydd y band yn yr ail safle hefyd yn derbyn gwahoddiad

    1. Rhaid i bob Band Pres Ieuenctid gynnwys offerynnau pres safonol Prydeinig o ran offeryniaeth. Uchafswm aelodaeth pob band yw 50 o chwaraewyr, gan gynnwys offerynwyr yr adran daro
    2. Gall bandiau sydd eisiau cystadlu fod yn fandiau ieuenctid, bandiau ysgol neu'n fandiau sir/rhanbarthol
    3. Dylai chwaraewyr fod yn 21 oed neu’n iau ar 1 Ionawr 2024 (bydd hyn yn sicrhau fod y chwaraewyr i gyd yn gymwys i gystadlu yng nghystadleuaeth yr EYBBC y flwyddyn ganlynol)
    4. Bydd y bandiau'n perfformio rhaglen o gerddoriaeth hunan-ddewisol hyd at 15 munud o hyd
    5. Rhaid i bob rhaglen gynnwys o leiaf tri darn gwahanol, ac mae hawl cynnwys un darn sy'n cynnwys unawdydd o’r band

    Rheolau ac amodau cyffredinol

    Dangos

    Amodau arbennig yr adran hon

    Archebu cais ar gyfer y gystadleuaeth hon

    Rhowch enw’r côr, parti, band neu unigolion sy’n cymryd rhan
    Swm:
    £120.00