Beirniaid: Julian Wilkins, Katie Thomas a Lyn Davies
Rhaglen o gerddoriaeth hunanddewisiad hyd at 12 munud o hyd i gynnwys darn digyfeiliant a darn gan gyfansoddwr o Gymro/Gymraes. Gellid cyfuno'r ddwy elfen a chael darn digyfeiliant gan gyfansoddwr o Gymro/Gymraes. Ni chaniateir i unrhyw gôr ailganu cân mewn categori arall adeg yr Ŵyl.
Gwobrau:
- Cwpan y Daily Post i’w ddal am flwyddyn a Medal Goffa Twm Dwynant i’w dal am flwyddyn i arweinydd y côr buddugol a £750 (Côr Philharmonic Caerdydd, i nodi bod y côr wedi cychwyn fel Côr Eisteddfod Caerdydd, 1978, wrth i’r côr ddod i ben)
- £500 (Eglwys Gymraeg Mynydd Seion, Casnewydd er cof am Anthony Gorton, aelod ffyddlon o’r capel a’r Orsedd. Cyfrannodd i ddiwylliant Cymru ar hyd ei oes. Roedd yn caru’r Gymraeg ac yn Eisteddfodwr brwd.)
- £300