Beirniaid: Rebecca Evans a Rhian Williams

Sefydlwyd yr ysgoloriaethau hyn i hyrwyddo cerddoriaeth lleisiol i unawdwyr yng Nghymru. Dyfernir yr ysgoloriaethau i'r cystadleuwyr er mwyn dilyn cwrs hyfforddi lleisiol mewn ysgolion neu golegau cerdd cydnabyddedig.

Mae'r gystadleuaeth yn agored i:

  • unrhyw berson a anwyd yng Nghymru
  • unrhyw berson y ganwyd un o’i rieni yng Nghymru
  • unrhyw berson sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru am y 3 blynedd cyn 31 Awst 2024
  • unrhyw berson sy’n siarad neu’n ysgrifennu Cymraeg.

Cyflwyno rhaglen heb fod yn hwy na 15 munud sy'n cynnwys oleiaf un cân gan gyfansoddwr o Gymro o’r ugeinfed ganrif neu’r ganrif bresennol a chenir pob un o’r caneuon yn Gymraeg. Cysylltwch â cystadlu@eisteddfod.cymru i wirio argaeledd cyfieithiad Cymraeg o unrhyw gân cyn 1 Mai 2024. Ni chaniateir newid y dewis gwreiddiol o ganeuon ar ôl 15 Mehefin 2024. Bydd yr Eisteddfod yn darparu cyfeilydd ar gyfer y gystadleuaeth hon ond bydd hawl gan gystadleuwyr i ddefnyddio cyfeilyddion eu hunain. Bydd hawl gan y panel beirniaid i atal yr ysgoloriaethau neu eu rhannu rhwng mwy nag un enillydd.

Gwobrau:

  • Ysgoloriaeth W Towyn Roberts er cof am ei briod, Violet Jones, Nantclwyd, ac Ysgoloriaeth William Park-Jones a £5000 (Darran Evans a Lisa Morris, er cof am eu rhieni David a Barbara Evans, Cwmaman, a'u modryb, Afonwy Owen, a oedd yn rhan o'r genhedlaeth hollbwysig a fu'n frwd i'w plant gael addysg Gymraeg, er na chawson nhw'r cyfle. Roedd y tri'n ymwneud â gweithgareddau diwylliannol a cherddorol yng Nghwm Cynon ar hyd eu hoes)
  • £3000
  • £1000
  • £500

 

Rheolau ac amodau cyffredinol

Dangos

Amodau arbennig yr adran hon