Beirniaid: David Kempster ac Elin Manahan Thomas
Dylid dewis un cân o Rhan A ac un gân o Rhan B
RHAN A
Opera: Unrhyw aria o Carmen, Bizet (gellir cynnwys yr adroddgan berthnasol)
Oratorio/Offeren: Unrhyw aria o Messiah, Handel (gellir cynnwys yr adroddgan berthnasol)
Lieder: Unrhyw unawd o gylch caneuon Schwanengesang, Schubert [copïau digidol ar gael o wefan IMSLP mewn cyweirnodau i lais uchel | canolig | isel] Cyhoeddiadau C F Peters.
Cysylltwch â cystadlu@eisteddfod.cymru i archebu cyfieithiad
RHAN B
Unawd Gymraeg: cân Gymraeg wreiddiol gan un o'r cyfansoddwyr canlynol: Morfydd Llwyn Owen, Grace Williams, Mansel Thomas neu Mervyn Burtch [copïau ar gael drwy Tŷ Cerdd, Oriana Publications, Oxford University Press, manselthomas.org.uk a mervynburtch.com]
Gwobrau:
- £150 (er cof am Dr Eurof Griffiths, llawfeddyg a meddyg teulu yng Nghwmaman a Chwm Cynon am dros 40 mlynedd – carwr y celfyddydau a’r opera’n enwedig)
- £100 (Mari Dalis ac Elin Meek, er cof am Siân ac Ifan Dalis-Davies, Caerfyrddin, eu rhieni, a Bob Parry, Abersoch a Manceinion, ffrind i'r teulu, a fyddai'n mynd yn gyson i ragbrofion y gystadleuaeth hon)
- £50 (Mari Dalis ac Elin Meek, er cof am Siân ac Ifan Dalis-Davies, Caerfyrddin, eu rhieni, a Bob Parry, Abersoch a Manceinion, ffrind i'r teulu, a fyddai'n mynd yn gyson i ragbrofion y gystadleuaeth hon)