Beirniaid: Antwn Owen-Hicks a Bethan Williams Jones

Mae’r gystadleuaeth yn bartneriaeth rhwng Eisteddfod Genedlaethol Cymru (Tŷ Gwerin), a’r BBC ac yn ymgais i ddarganfod talent cerddoriaeth werin Gymraeg newydd. Bydd y gystadleuaeth yn agored i fandiau neu artistiaid unigol sy’n perfformio cerddoriaeth werin. Gall y rhain fod yn offerynnol, lleisiol neu’n gyfuniad o’r ddau. Diffinir gwerin fel caneuon ac alawon traddodiadol Cymreig neu ganeuon newydd yn y dull gwerinol.

Gwobr: £600 (Drive, yn falch o gefnogi'r Eisteddfod yn Rhondda Cynon Taf)

Sut mae ymgeisio ar gyfer Brwydr y Bandiau?

Rownd 1

Gall bandiau / artistiaid ymgeisio drwy gofrestru ar gyfer y gystadleuaeth ac anfon demo neu recordiad fideo o set hyd at 15 munud i gynnwys rhwng 2–4 cân.

Rownd 2

Bydd y beirniaid yn dewis 4 band neu artist i fynd ymlaen i’r rownd nesaf bydd y 4 yma yn cael y cyfle i:

  • Recordio 2 gân mewn set byw yn Clwb Ifor Bach ac mewn lleoliad yn y Gogledd
  • Bydd y caneuon yma yn cael eu darlledu ar Radio Cymru ac ar platfformau digodol yr Eisteddfod
  • Perfformio set byw  20 munud yn y Tŷ Gwerin ar Ddydd Mawrth, Awst 6ed. 

Rheolau ac amodau cyffredinol

Dangos

Amodau arbennig yr adran hon