Beirniaid: Jean Stanley Jones, Aled Phillips a Brian Hughes

Rhaglen o gerddoriaeth hunanddewisiad hyd at 12 munud o hyd i gynnwys darn digyfeiliant a darn gan gyfansoddwr o Gymro/Gymraes. Gellid cyfuno'r ddwy elfen a chael darn digyfeiliant gan gyfansoddwr o Gymro/Gymraes. Ni chaniateir i unrhyw gôr ailganu cân mewn categori arall adeg yr Ŵyl.

Gwobrau:

  • Cwpan Charles Dawe i’w ddal am flwyddyn a Medal Côr Merched Hafren (Jayne Davies) i arweinydd y côr buddugol a £800
  • £600
  • £400

Dyddiad cau: 1 Mai 2025 am ganol dydd

Rheolau ac amodau cyffredinol

Dangos

Amodau arbennig yr adran hon