Beirniaid: Jean Stanley Jones, Aled Phillips a Brian Hughes

Unrhyw gyfuniad o leisiau i gyflwyno rhaglen o gerddoriaeth hunanddewisiad heb fod yn hwy na 10 munud, ac i gynnwys darn gan gyfansoddwr o Gymro/Gymraes. Gellid hefyd ddefnyddio trefniant o alaw werin Gymreig gan gyfansoddwr o Gymro/Gymraes. Ni chaniateir i unrhyw gôr ailganu cân mewn categori arall adeg yr Ŵyl.

Bydd cystadlu mewn dwy eisteddfod leol rhwng 1 Mai 2024 a 1 Mai 2025 yn rhoi’r hawl i gystadlu yn y gystadleuaeth hon yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025. Wrth gofrestru, rhaid nodi enwau’r Eisteddfodau lleol y cystadlwyd ynddynt.

Ewch i wefan Cymdeithas Eisteddfodau Cymru am restr o Eisteddfodau yng Nghymru

Gwobrau:

  • Cwpan Miss Menai Williams a Mrs Nesta Davies i’w ddal am flwyddyn a £600
  • £400 (Rhodd gan Nia M Humphreys i gofio’n annwyl a diolchgar am fywyd ei rhieni, y diweddar Gwilym a Carys Humphreys ac am ei brawd y diweddar Gareth Wyn Humphreys.)
  • £200

Dyddiad cau: 1 Mai 2025 am ganol dydd

Rheolau ac amodau cyffredinol

Dangos

Amodau arbennig yr adran hon