Beirniaid: Kate Baylis, Elin Pritchard a Catrin Wyn-Davies

Sefydlwyd yr ysgoloriaeth i hyrwyddo cerddoriaeth glasurol yng Nghymru a'i dyfarnu i gefnogi datblygiad proffesiynol y cystadleuydd yn y diwydiant canu clasurol.

Erbyn 1 Mai 2025 mae'n rhaid:

  • Cyflwyno hunan-dâp (selftape) sy’n cynnwys 2 gân a berfformiwyd gan y cystadleuydd yn ystod y 6 mis diwethaf. Cysylltwch â cystadlu@eisteddfod.cymru am ganllawiau pellach
  • Rhaid cynnwys 1 cân gan gyfansoddwr o Gymru
  • Cyflwyniad ysgrifenedig hyd at 200 o eiriau yn nodi bwriad defnydd o'r Ysgoloriaeth

Bydd Panel Beirniaid yn dewis ac yn gwahodd pedwar cystadleuydd o blith yr ymgeiswyr i ymddangos mewn rownd derfynol yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

Os yn cyrraedd y pedwar olaf, bydd disgwyl i chi:

      • Gyflwyno rhaglen hyd at 15 munud sy’n cynnwys o leiaf un gân gan gyfansoddwr o Gymro/Gymraes a chenir pob un o'r caneuon yn Gymraeg
      • Bydd elfen o fentora wrth ddewis rhaglen ac wrth baratoi ar gyfer y gystadleuaeth

      Mae'r gystadleuaeth yn agored i:

      • unrhyw berson a anwyd yng Nghymru
      • unrhyw berson y ganwyd un o’i rieni yng Nghymru
      • unrhyw berson sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru am dair blynedd cyn 31 Awst 2026

      Bydd hawl gan y panel beirniaid i atal yr ysgoloriaethau neu i’w rhannu rhwng mwy nag un enillydd

      Gwobrau:

      • Ysgoloriaeth W Towyn Roberts er cof am ei briod, Violet Jones, Nantclwyd, ac Ysgoloriaeth William Park-Jones a £5000
      • £3000
      • £1000
      • £500

      Dyddiad cau: 1 Mai 2025 am ganol dydd

      Rheolau ac amodau cyffredinol

      Dangos

      Amodau arbennig yr adran hon

      Archebu cais ar gyfer y gystadleuaeth hon

      Swm:
      £10.00