Beirniaid: Camilla Roberts, Fflur Wyn a Siôn Goronwy

Bydd y panel beirniaid yn dewis tri chystadleuydd ar draws y categorïau lleisiol 19 ac o dan 25 oed i ganu eto yn y rownd derfynol i gyflwyno

    1. Yr unawd Rhan A yn y dosbarth
    2. Hunanddewisiad o unawd gan gyfansoddwr o Gymro ac eithrio dewisiadau Rhan B unawdau 19 ac o dan 25 oed

Dyfernir yr ysgoloriaethau canlynol ar gyfer cantorion yn y categorïau lleisiol 19 ac o dan 25 oed (nid o reidrwydd i enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts):

    • Ysgoloriaeth William Park-Jones i’r unawdydd mwyaf addawol yng nghystadlaethau Gwobr Goffa Osborne Roberts (£1000)
    • Gwobr Cronfa Goffa Violet Mary Lewis (£220) yn rhoddedig gan ei mab, Dr Cyril David Jones, Michigan, UDA, a’i merch Phyllis Marie Jones-Gaide, Florida, UDA, i’r soprano mwyaf disglair 19 ac o dan 25 oed.
    • Gwobr Coffa David Lloyd (£160) | Cronfa Goffa Jean Skidmore, Aberdyfi (£60) i'r tenor mwyaf disglair 19 ac o dan 25 oed

Estynnir gwahoddiad i'r enillydd gan Sefydliad Cymru Gogledd America i berfformio yng ngŵyl NAWF (North America Wales Festival) ddechrau Medi 2026 yn Springfield, Massachusetts

    Gwobr: Bydd yr enillydd yn derbyn yr ysgoloriaethau canlynol: Ysgoloriaeth William Park-Jones (£2000) | Ysgoloriaeth Côr Meibion Cymry Llundain (£500) a £300

    Rheolau ac amodau cyffredinol

    Dangos

    Amodau arbennig yr adran hon