Beirniaid: Miriam Hughes, Ceri Owen a Dafydd Glyn Williams
Cyflwyno rhaglen o un darn neu ragor ar un neu gyfuniad o offerynnau. Ni ddylai’r rhaglen gyflawn fod yn hwy na 10 munud. Cyfrifoldeb y cystadleuydd yw darparu cyfeilydd/ cyfeiliant ei hun. Caniateir cyfeiliant byw neu ar drac sain.
Gwobrau:
- Rhuban Glas Offerynnol o dan 16 oed, Ysgoloriaeth Ymddiriedolaeth Ivor ac Aeres Evans (£1000) i’r enillydd a £80
- £60
- £40
Dyddiad cau: 1 Mai 2025 am ganol dydd