Yn dilyn galwad agored yn ystod tymor yr Hydref 2024, bydd y panel beirniaid yn dewis tri cherddor neu grëwr cerddoriaeth i weithio gyda mentor gyfansoddwyr trwy gydol hanner cyntaf 2025 i gyfansoddi ar gyfer ensemble offerynnol. Bydd y tri chyfanwaith yn cael eu perfformio ar faes yr Eisteddfod, a dyfernir y tlws i’r cyfansoddwr/wraig b/fuddugol. Os yn briodol, ystyrir cyhoeddi’r gwaith gan Tŷ Cerdd.

Thema Medal y Cyfansoddwyr eleni yw ‘Cymru Fydd’. I gydnabod canmlwyddiant geni Islwyn Ffowc Elis, un o feibion ​​amlycaf ardal Wrecsam, rydym am i artistiaid gyflwyno syniadau sut y gallent ymateb drwy gerddoriaeth i’w nofel ffuglen-wyddonol epig: ‘Wythnos yng Nghymru Fydd’.

Cliciwch yma i gwblhau ffurflen gais ac i ddarganfod mwy am y gystadleuaeth: Medal y Cyfansoddwr

Cynhelir y gystadleuaeth mewn cydweithrediad â Tŷ Cerdd, Sinfonia Cymru a Chymdeithas Cerddoriaeth Cymru.

Dyddiad cau cofrestru wedi ymestyn i: 7 Ionawr 2025

Gwobr: Medal yn rhoddedig gan Gymdeithas Cerddoriaeth Cymru a £750

Dyddiad cau: 1 Rhagfyr 2024 am 23:59

Rheolau ac amodau cyffredinol

Dangos

Amodau arbennig yr adran hon