Beirniaid: Gwenan Gibbard ac Iestyn Tyne

Mae’r gystadleuaeth yn bartneriaeth rhwng Eisteddfod Genedlaethol Cymru a BBC Radio Cymru ac yn ymgais i ddarganfod talent cerddoriaeth werin Gymraeg newydd. Diffinnir gwerin fel caneuon ac alawon traddodiadol Cymreig neu ganeuon newydd yn y dull gwerinol.

Sut i ymgeisio ar gyfer Brwydr y Bandiau Gwerin?

i gystadlu mae'n rhaid:

  • Cofrestru drwy borth cystadlu'r Eisteddfod erbyn 1 Mai
  • Cyflwyno fideo o'r set hyd at 15 munud i gynnwys o leiaf 2, a hyd at 4 cân
  • Bydd y beirniaid yn dewis hyd at 4 artist/band/grŵp i fynd ymlaen i'r rownd nesaf

Bydd cyfle i'r artistiaid/bandiau/grwpiau hynny:

  • Recordio a ffilmio 2 gân yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd neu leoliad yng ngogledd Cymru
  • Caiff y caneuon recordiwyd eu darlledu ar BBC Radio Cymru ac ar blatfformau digidol yn arwain at yr Eisteddfod

      ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol

      • Perfformiad byw o'r caneuon yn y Tŷ Gwerin
      • Cyhoeddi enw'r artist/band buddugol yn dilyn y perfformiad

      Gwobr: £600

      Dyddiad cau: 1 Mai 2024 am 23:59

      Rheolau ac amodau cyffredinol

      Dangos

      Amodau arbennig yr adran hon