Mae Brwydr y Bandiau yn bartneriaeth rhwng Eisteddfod Genedlaethol Cymru (Maes B), a’r BBC ac yn ymgais i ddarganfod talent cerddoriaeth gyfoes Cymraeg newydd.
Bydd Brwydr y Bandiau yn agored i fandiau / artistiaid sy’n cyfansoddi, cynhyrchu a pherfformio cerddoriaeth boblogaidd gyfoes wreiddiol. Mae’r genres cyfoes hyn yn cynnwys indie, electroneg, trefol, MOBO, pop, roc, byd, canu gwerin cyfoes ac unrhyw genres cerddorol cyfoes eraill newydd sy’n dod i’r amlwg ar hyn o bryd.
Gwobr: Slot perfformio ar lwyfan Maes B nos Sadwrn olaf yr Eisteddfod a £1000
Dyddiad cau: 1 Mai 2025 am ganol dydd