Beirniaid: Gavin Harris a Sarah Featherstone

Dyfernir i’r prosiect pensaernïol sydd o ansawdd a safon dylunio uchel

Medal Aur Norah Dunphy: Cyflwynir er anrhydedd i Norah Dunphy, y ferch gyntaf ym Mhrydain i ennill gradd bagloriaeth mewn Pensaernïaeth. Mae'r fedal yn coffáu Thomas Alwyn Lloyd, pensaer ac un o sylfaenwyr y Sefydliad Cynllunio Trefol. Dyfernir y wobr i brosiect pensaernïol sydd o ansawdd a safon dylunio uchel sy'n cyfleu rhagoriaeth o ran dylunio a safon bensaernïol ac yn arddangos ymrwymiad i gynaliadwyedd amgylcheddol wrth ystyried deunyddiau, perfformiad adeiladu, datgarboneiddio, ac ailgylchu diwedd oes.

Er mwyn ymgeisio, rhaid i'r prosiect fod:

  • wedi’i adeiladu yng Nghymru wedi’i gwblhau (neu bron â'i gwblhau) rhwng 1 Ionawr 2023 a 1 Mawrth 2025
  • wedi cael ei arwain gan bensaer (Medal Aur Norah Dunphy) neu bensaer/pensaer tirwedd/dylunydd trefol (Plac Teilyngdod)
  • wedi derbyn caniatâd y cleient er mwyn cyflwyno'r prosiect

Dilynwch y cyfarwyddiadau a gofynion isod a chyflwyno’ch cais ar ffurf PDF

  • Gwybodaeth am y prosiect
    • Enw'r prosiect
    • Enw pensaer y prosiect (neu bensaer tirwedd/dylunydd tref ar gyfer Plac Teilyngdod)
    • Arwynebedd mewnol 'gross' mewn metrau sgwâr, ac yn achos prosiectau dylunio tirwedd | trefol yn bennaf, arwynebedd allanol 'gross' mewn metrau sgwâr.
    • Gwerth y contract | cost adeiladu’r prosiect gan gynnwys adeiladu a dodrefnu os caiff ei wneud | ei oruchwylio gan y pensaer (ac eithrio costau tir a ffioedd)
    • Math o gytundeb (ar gyfer prosiectau yn y DU), dyddiad cymeradwyo cynllunio a dyddiad meddiannu’r prosiect
  • Enw a chyfeiriad practis pensaer | stiwdio
    • Manylion cyswllt rheolwr prosiect | pensaer, cleient a chontractwr
    • Manylion cyswllt ar gyfer ymweliadau gan y detholwyr
    • Manylion cyswllt y wasg (dewisol)
    • Manylion cyswllt ffotograffydd
    • Os yn berthnasol, dylech sicrhau cytundeb rhwng yr holl randdeiliaid ar sut y dylid credydu'r prosiect os ydynt yn gweithio ar y cyd â chwmni neu bensaer arall
  • Disgrifiad o'r prosiect: 500 gair yn disgrifio’r prosiect sy’n nodi:
    • 'Brîff' gan y cleient/gwybodaeth tendr prosiect cyhoeddus
    • Ymateb y pensaer/pensaer tirwedd/dylunydd trefol i'r brîff (ar gyfer Medal Aur Norah Dunphy bydd hyn yn ddatganiad dylunio; ar gyfer y Plac Teilyngdod dylai esbonio sut aethoch ati i ddilyn egwyddorion Creu Lleoedd)
    • Lleoliad, safle neu gyfyngiadau perthnasol
    • Crynodeb o'r amserlen
    • Cyfyngiadau parthed y gyllideb a'r rhaglen adeiladu
    • Datganiad cynaliadwyedd: 200 gair yn crynhoi'r holl ffyrdd y mae'r prosiect yn gynaliadwy
  • Ymgynghorwyr allweddol: Cyfeiriwch at holl ymgynghorwyr allweddol y prosiect, e.e. Peiriannydd | Peirianwyr Strwythurol, Peiriannydd | Peirianwyr Gwasanaethau, Pensaer | Penseiri Tirwedd ac ati, gyda'u manylion cyswllt. Cydnabyddir yr ymgynghorwyr mewn datganiadau i'r wasg ac ar dystysgrifau gwobrau.
  • Delweddau: Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gyflwyno'r canlynol: (peidiwch â chynnwys logos cwmni na thestun ar unrhyw ddelweddau)
    • 8 delwedd JPEG, gydag isafswm lled a | neu uchder o 1000px yn gymysgedd o luniau allanol a mewnol (ar gyfer Medal Aur Norah Dunphy) o'r prosiect. Dylai rhai o’r lluniau gyfleu’r ffordd y mae’r prosiect yn ymwneud â’i gyd-destun. Cymysgedd o luniau llydan a lluniau agos sy'n crynhoi elfennau o-ddydd-i-ddydd y prosiect. Rhaid cydnabod awdur pob ffotograff.
    • Cynllun lleoliad (yn dangos y prosiect yn ei gyd-destun, e.e. 1:1250)
    • Cynllun safle (ar gyfer Medal Aur Norah Dunphy ac yn opsiynol ar gyfer Plac Teilyngdod)
    • Cynllun llawr gwaelod (yn dangos y brif fynedfa) a chynllun llawr nodweddiadol (ar gyfer Medal Aur Norah Dunphy yn unig)

Dyddiad cau: 2 Ebrill 2025 am ganol dydd

Rheolau ac amodau cyffredinol

Dangos

Amodau arbennig yr adran hon

Archebu cais ar gyfer y gystadleuaeth hon

Rhowch enw’r côr, parti, band neu unigolion sy’n cymryd rhan
Swm:
£20.00