Dyfernir yr ysgoloriaeth gwerth £1500 i unigolion mewn addysg, sy'n astudio Pensaernïaeth | Pensaernïaeth Tirwedd neu Ddylunio Trefol yn ystod a hyd at flwyddyn ar ôl cwblhau gradd MA | MS

Cefnogir gan Gomisiwn Dylunio Cymru â Chymdeithas Frenhinol Penseiri Cymru

Gwobr: Ysgoloriaeth Bensaernïaeth a £1500

Amodau arbennig Ysgoloriaeth Bensaernïaeth

        Sefydlwyd yr ysgoloriaeth er mwyn hybu pensaernïaeth a dylunio yng Nghymru. Dyfernir yr ysgoloriaeth gwerth £1500 i'r ymgeisydd mwyaf addawol er mwyn ei (g)alluogi i ehangu ei (h)ymwybyddiaeth o bensaernïaeth greadigol ac ymdrechu am ragoriaeth ym maes dylunio ac i hyrwyddo gyrfa a datblygu'u (h)astudiaeth. Disgwylir i enillydd yr ysgoloriaeth gyflwyno traethawd gweledol i’w arddangos yn yr Eisteddfod ddilynol. Croesewir ceisiadau o feysydd pensaernïaeth, tirwedd neu ddylunio trefol. Dehonglir y gair pensaernïaeth yn yr ystyr ehangaf.

        1. Bydd yr ysgoloriaeth yn agored i unigolion mewn addysg, sy'n astudio Pensaernïaeth | Pensaernïaeth Tirwedd neu Ddylunio Trefol yn ystod a hyd at flwyddyn ar ôl cwblhau gradd MA | MSc. Bydd yr ymgeiswyr:
          • wedi’u geni yng Nghymru, neu
          • ag un o’u rhieni wedi’u geni yng Nghymru, neu
          • yn siarad yr iaith neu ysgrifennu'n Gymraeg, neu
          • wedi byw neu weithio yng Nghymru ers tair blynedd cyn 31 Awst flwyddyn yr ŵyl.
        2. Sut i ymgeisio: Rhaid cyflwyno'r wybodaeth ganlynol a thalu £10 er mwyn cwblhau eich cais drwy system gofrestru'r Eisteddfod cyn y dyddiad cau
          • Datganiad 300 gair amdanoch eich hun a sut y bydd y wobr ariannol yn cael ei defnyddio i gynorthwyo gyda'ch astudiaethau a'ch uchelgais gyrfa
          • Dogfen pdf yn cyflwyno eich gwaith, yn cynnwys hyd at 8 llun ynghyd ag esboniadau byr o’r gwaith.

        Dyddiad cau: 3 Mawrth 2025 am ganol dydd

        Rheolau ac amodau cyffredinol

        Dangos

        Amodau arbennig yr adran hon