Beirniaid: Eiri Jenkins ac W Dyfrig Davies
Detholiad heb fod yn hwy na 4 munud o ‘Y Clawdd (Cyfres o Gerddi)’ gan Bryan Martin Davies. Rhaid cynnwys y gerdd gyntaf, 'Ynom Mae y Clawdd' fel rhan o’r cyflwyniad: gellir ei lefaru ar ddechrau neu ar ddiwedd y perfformiad, neu ei phlethu gyda cherdd neu gerddi eraill o’r gyfres.
Gwobrau:
- Cwpan Lleisiau Llifon i’w ddal am flwyddyn a £400
- £200 (Er cof am Gwenan Emanuel.)
- £100
Dyddiad cau: 1 Mai 2025 am ganol dydd