Beirniad: Carys Eleri
Thema: Gwreichion
Caniateir ffilmio mewn gwahanol leoliadau o fewn y gwaith a golygu fel y gwelir yn briodol, boed hynny drwy ddefnyddio meddalwedd broffesiynol neu 'app' ffôn.
Cewch fod yn greadigol drwy wneud defnydd o ddarluniau, cerddoriaeth, technegau ffilmio a golygu, neu ba bynnag dechnoleg sy’n ychwanegu at eich geiriau, ond rhaid i’r pwyslais fod ar y gair llafar a’i berthynas gyda’ch gweledigaeth a’ch dehongliad chi o’r thema. Mae'n ddealledig y bydd y perfformiwr i'w weld ar y sgrîn ar gyfer y rhan fwyaf o'r perfformiad.
i gystadlu, mae'n rhaid:
-
- Cofrestru drwy borth cystadlu'r Eisteddfod erbyn 1 Mai
- uwchlwytho'r cyflwyniad ar ffurf fideo (e.e. MP4 / MOV) erbyn 15 Mehefin
Gwobrau:
- £150
- £120
- £90
Dyddiad cau: 1 Mai 2025 am ganol dydd