Beirniad: Carys Eleri
Cyfle i unigolyn bortreadu un o gymeriadau enwog Cymru yn seiliedig ar gyflwyniadau gwreiddiol cwmni Mewn Cymeriad
Gofynion y gystadleuaeth:
- Dylai’r pwyslais fod ar greu perfformiad ysgafn, sy'n dangos gallu’r unigolyn i ryngweithio’n hwylus gyda’r gynulleidfa a chyfleu’r stori’n glir;
- Uchafswm hyd y perfformiad fydd 5 munud, wedi'i seilio ar ddewis o sgriptiau Mewn Cymeriad
- Caniateir gwisgoedd a phrops
- Bydd yr enillydd cenedlaethol yn derbyn gwahoddiad i ymuno â chwmni Mewn Cymeriad ar gyfer gweithdy ymarferol i ddatblygu sgiliau ymhellach.
Sgriptiau ar gael o wefan Eisteddfodau Cymru:
www.steddfota.cymru
Gwobrau:
- £150
- £120
- £90
Dyddiad cau: 1 Mai 2024 am 23:59