Beirniaid: Ifor ap Glyn, Gwyneth Lewis a Siôn Aled
Pryddest neu gasgliad o gerddi hyd at 250 llinell.
Testun: Adfeilion
Gwobr: Coron yr Eisteddfod yn rhoddedig gan Elin Haf Davies a £750
Cystadleuaeth ar gyfer cerdd neu gerddi ar y mesurau rhydd neu benrhydd yw cystadleuaeth y goron ac ni chaniateir cerddi ar y mesurau caeth traddodiadol. Ni chaniateir ond defnydd achlysurol iawn o’r gynghanedd yn y gystadleuaeth.
Dyddiad cau: 1 Ebrill 2025 am ganol dydd