Beirniaid: Steve Morris, Francesca Sciarrillo ac Owain Tudur Jones

Yn agored i unrhyw ddysgwr 18 oed a throsodd sydd yn siarad Cymraeg yn eithaf hyderus. Gallwch hunan-enwebu neu dderbyn enwebiad gan diwtor, aelod o'r teulu, cyfaill neu gyfoed drwy gyflwyno ffurflen ar-lein ar wefan yr Eisteddfod.

Mae modd sôn am y canlynol:

  • teulu a diddordebau
  • rheswm dros ddysgu Cymraeg
  • sut yr aeth y dysgwr ati i ddysgu’r iaith
  • effaith dysgu Cymraeg ar fywyd y dysgwr a’r defnydd mae’n ei wneud o’r Gymraeg
  • gobeithion ar gyfer y dyfodol

Y rownd gyn-derfynol i’w chynnal yn rhithiol mewn partneriaeth gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Dyddiad cau i dderbyn enwebiadau: 1 Mai 2025

Caiff yr enillydd wahoddiad i fod yn aelod o’r Orsedd ynghyd â gwahoddiad i ymuno â Phanel Dysgwyr yr Eisteddfod. Bydd yr ymgeiswyr sy'n cyrraedd y rownd derfynol yn derbyn tanysgrifiad blwyddyn o gylchgrawn Golwg. Yn ogystal, cydnabyddir rhoddion gan fudiad Merched y Wawr

Gwobr: Tlws Dysgwr y Flwyddyn a £300

Dyddiad cau: 1 Mai 2025 am ganol dydd

Rheolau ac amodau cyffredinol

Dangos

Amodau arbennig yr adran hon