Gwahoddir dramodwyr i gyflwyno naill ai braslun o hyd at 2500 o eiriau, sy'n cynnwys amlinelliad stori - dechrau, canol, diwedd - lleoliad ac amser, proffil cymeriadau, arddull y darn ac enghraifft o 3 golygfa wedi eu deialog; neu ddrafft o ddrama gyflawn o hyd at 30-45 munud.

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol, mewn cydweithrediad â Chonsortiwm o gwmnïau a chynhyrchwyr theatr yng Nghymru, yn cynnig pecyn cynhwysfawr wedi'i deilwra i’r dramodydd buddugol i ddatblygu gwaith ac agor drws ehangach i’r diwydiant theatr yng Nghymru. Mae’r wobr, sydd yn gomisiwn i ddatblygu sgript, gan roi’r cyfle i ysgrifennu/datblygu drama mewn proses fanwl er mwyn galluogi’r dramodydd i ymestyn ei sgiliau creadigol, mewn amgylchedd diogel, gyda’r nod o gynhyrchu darn gwreiddiol o waith safonol ar gyfer y theatr.

Bydd y panel o feirniaid (i gynnwys cynrychiolydd o'r Consortiwm) yn dewis y dramodydd mwyaf rhagorol o blith y ceisiadau i’w g/wobrwyo. Bydd y panel yn chwilio am ddramodydd sy’n creu gwaith trawiadol, cyffrous ac sy’n herio dychymyg a meddylfryd cynulleidfa.

Gwobr: Medal y Dramodydd a £3000

Cyflwynir arian ar y cyd rhwng aelodau’r Consortiwm mewn partneriaeth gyda’r Eisteddfod er mwyn cynnig gwobr o statws a fyddai’n cyfrannu tuag at ddatblygiad gyrfaol y dramodydd. Bydd y pecyn o gefnogaeth yn cynnig costau i'r dramodydd ac yn cael ei deilwra mewn ymgynghoriad â’r dramodydd, gan adlewyrchu’r anghenion yn ôl y gofyn, e.e. gallai hyn gynnwys elfen o fentora os yn berthnasol. Yn ychwanegol i’r wobr ariannol, bydd swm o arian gan y Consortiwm yn cael ei neilltuo ar gyfer datblygu gwaith y buddugol.

Fel rhan o’r pecyn bydd y panel beirniaid, mewn ymgynghoriad â’r buddugol, yn penodi’r cwmni/au perfformio/cynhyrchu mwyaf addas o fewn y Consortiwm yn ôl arddull gwaith y dramodydd buddugol. Daw'r broses ddatblygu i ben gyda darlleniad o’r sgript lawn yn yr Eisteddfod y flwyddyn ganlynol.

Yn ychwanegol i'r wobr, sydd yn gomisiwn i ddatblygu sgript, fe gynigir cyfleoedd gan y Consortiwm ehangach i gynnwys:

  • Cyfnod o gysgodi;
  • Cyfleoedd i gwrdd â’r tîm;
  • Gwahoddiadau i rwydweithio;
  • Cyngor gyrfaol;
  • Tocynnau braint i weld cynyrchiadau penodol.

Cytunir ar y manylion gyda’r buddugol / consortiwm wedi’r Eisteddfod.

Consortiwm: Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Frân Wen, Theatr Bara Caws, Theatr Clwyd, Theatr Genedlaethol Cymru, Theatr Sherman, Theatr y Torch, Cwmni Theatr Arad Goch

Gwobr: Medal y Dramodydd (er cof am Eiryth ac Urien Wiliam, rhoddedig gan eu plant, Hywel, Sioned a Steffan) a £750

  1. Ni ddylai’r ddrama fod wedi ei chynhyrchu yn broffesiynol, nac wedi derbyn unrhyw wobrau, nag wedi cael ei chyhoeddi, i fod yn gymwys ar gyfer y wobr hon.
  2. Gellid cyflwyno Dramâu nad ydynt eisoes wedi cael eu cyflwyno i unrhyw un o aelodau’r Consortiwm
  3. Gellid cyflwyno fel cyd-ysgrifennwr, gan rannu’r wobr ariannol a’r profiad sydd ynghlwm â’r wobr.
  4. Daw'r broses ddatblygu i ben gyda darlleniad o’r sgript lawn yn yr Eisteddfod y flwyddyn ganlynol. Bydd gan y Consortiwm yr hawl am 6 mis ar ôl y darlleniad i wneud y cynnig cyntaf er mwyn datblygu'r gwaith ymhellach ar gyfer cynhyrchiad llawn, wedi hynny dychwelir yr hawliau i'r dramodydd.
  5. Gweler hefyd Rheolau ac Amodau Cyffredinol yr Eisteddfod.

Dyddiad cau: 1 Ebrill 2025 am ganol dydd

Rheolau ac amodau cyffredinol

Dangos

Amodau arbennig yr adran hon