Rhaglen hunanddewisiad adloniannol, hyd at 12 munud o hyd, o drefniannau corawl yn yr arddulliau canlynol: pop, roc, sioe gerdd, jazz, gospel a/neu emyn, gwerin a/neu ganeuon ysgafn Cymreig. Ni chaniateir i unrhyw gôr ail-ganu cân mewn categori arall adeg yr Ŵyl
Gwobrau:
- Cwpan Y Cymro i’w ddal am flwyddyn a Medal Ann Dwynant i’w dal am flwyddyn i arweinydd y côr buddugol a £800 (er cof am Dai John Lewis yn arweinydd Côr Crymych, enillwyr yn y Genedlaethol am dros 30 o flynyddoedd a Lois Lewis, nyrs ardal Crymych, gan eu plant, Ann a John Batey, Gerallt ac Ann Lewis)
- £600 ()
- £400 (Côr Corlan, Llanboidy)
Dyddiad cau: 1 Mai 2026 am ganol dydd