Sefydlwyd yr ysgoloriaeth i hyrwyddo cerddoriaeth glasurol yng Nghymru a'i dyfarnu i gefnogi datblygiad proffesiynol y cystadleuydd yn y diwydiant canu clasurol.
Gwahoddir pob cystadleuydd i ragbrawf i gyflwyno rhaglen hyd at 15 munud sy’n cynnwys o leiaf un gân gan gyfansoddwr/gyfansoddwraig o Gymru a chenir pob un o'r caneuon yn Gymraeg. Cysylltwch â cystadlu@eisteddfod.cymru i wirio argaeledd cyfieithiadau. Yn ychwanegol, rhaid paratoi cyflwyniad ysgrifenedig yn y Gymraeg hyd at 200 o eiriau yn nodi bwriad y defnydd o'r Ysgoloriaeth.
Bydd yr Eisteddfod yn darparu cyfeilydd ar gyfer y gystadleuaeth hon, ond bydd hawl gan gystadleuwyr i ddefnyddio'u cyfeilyddion eu hunain. Bydd hawl i atal neu rannu'r ysgoloriaethau yn unol â dymuniad y panel beirniaid
Gwobrau:
- Ysgoloriaeth W Towyn Roberts er cof am ei briod, Violet Jones, Nantclwyd a £5000
- £3000
- £1000
- £500
Mae'r gystadleuaeth yn agored i:
- sydd wedi’u geni yng Nghymru, neu
- sydd ag un o’u rhieni wedi’u geni yng Nghymru, neu
- sy’n siarad neu ysgrifennu Cymraeg, neu
- sydd wedi byw neu weithio yng Nghymru ers tair blynedd cyn 31 Awst flwyddyn yr Ŵyl.
Wedi’r dyfarniad, gwahoddir holl gystadleuwyr y gystadleuaeth i sesiwn weithdy (working session) ar faes yr Eisteddfod gydag aelodau o’r panel beirniadu.
Dyddiad cau: 1 Mai 2026 am ganol dydd