Bydd y panel beirniaid yn dewis tri chystadleuydd ar draws y categorïau lleisiol 25 oed a throsodd i ganu eto yn y rownd derfynol i gyflwyno:

(a) Yr unawd Rhan A yn y dosbarth
(b) Hunanddewisiad o unawd gan gyfansoddwr/gyfansoddwraig o Gymru ac eithrio dewisiadau Rhan B unawdau 25 oed a throsodd.

Bydd yr enillydd yn derbyn gwobr o £300, sy'n arian o gronfa goffa y diweddar Aeron Gwyn, enillydd Gwobr Goffa David Ellis yn 2005. Estynnir gwahoddiad arbennig gan gyfeillion Eglwys Gymraeg Melbourne i'r enillydd i berfformio yn nathliadau Gŵyl Ddewi Eglwys Gymraeg Melbourne yn 2027

Gwobr: Medal Goffa David Ellis (Colin Phillips a’i ferched, Trefnwr Angladdau Aberteifi ac Eglwyswrw) a £300 (Joyce Williams a’r merched, er cof am Douglas Lloyd Williams, Ysgrifennydd Pwyllgor Cerdd, Eisteddfod Aberteifi a’r Cyffiniau 1976)

Rheolau ac amodau cyffredinol

Dangos

Amodau arbennig yr adran hon