Cyflwyno rhaglen o un darn neu ragor ar un neu gyfuniad o offerynnau. Ni ddylai’r rhaglen gyflawn fod yn hwy na 12 munud. Cyfrifoldeb y cystadleuydd yw darparu cyfeilydd/cyfeiliant eu hun. Caniateir cyfeiliant byw neu ar drac sain
Gwobrau:
- Rhuban Glas offerynnol 16 ac o dan 19 oed, (£1500) Ysgoloriaeth Leslie Wynne-Evans | (£500) Ysgoloriaeth Rachael Ann Thomas i’r enillydd a £100 (Meinir Jones Parry a’r teulu, er cof am ei rhieni, yr arlunydd Aneurin Jones a’i briod Julie, Aberteifi)
- £80 (Meinir Jones Parry a’r teulu, er cof am ei rhieni, yr arlunydd Aneurin Jones a’i briod Julie, Aberteifi)
- £60 (Meinir Jones Parry a’r teulu, er cof am ei rhieni, yr arlunydd Aneurin Jones a’i briod Julie, Aberteifi)
Dyddiad cau: 1 Mai 2026 am ganol dydd