Yn dilyn galwad agored yn ystod tymor yr Hydref 2025, bydd y panel beirniaid yn dewis tri cherddor neu grëwr cerddoriaeth i weithio gyda mentor/cyfansoddwyr trwy gydol hanner cyntaf 2026, i gyfansoddi dau ddarn corawl (ar gyfer lleisiau SATB a lleisiau SA o dan 16 oed) yn seiliedig ar eiriau Waldo Williams
Cyhoeddir manylion y gystadleuaeth ar wefan yr Eisteddfod ynghyd â ffurflen i gofrestru ar wefan Tŷ Cerdd yn ystod tymor yr Hydref 2025
Gwobr: Medal y Cyfansoddwr (yn rhoddedig gan Grynwyr Cymru) a £750 (Iestyn Evans, er cof am Beti Williams, Rhos-fach, Llantwd, ei athrawes biano)
Cynhelir y gystadleuaeth mewn cydweithrediad â Tŷ Cerdd a Chymdeithas Cerddoriaeth Cymru
Dyddiad cau: 7 Ionawr 2026 am ganol dydd