i gyflwyno un ai 'Aberdaugleddau’ neu 'Dawns Llandudoch' [Cymdeithas Ddawns Werin Cymru]
Cystadleuaeth hwyliog i annog grwpiau newydd gyda dawnswyr sydd heb gystadlu ym mhrif gystadlaethau dawnsio gwerin yr Eisteddfod o’r blaen. Rhaid i fwyafrif y dawnswyr fod yn 16 oed a throsodd. Gellir derbyn cefnogaeth a hyfforddiant gan ddawnswyr profiadol. Nid yw gwisg draddodiadol yn ofynnol ond anogir cerddoriaeth fyw os yn bosib
Gwobr: £300 (Teulu Rhoslan, Cas-lai, er cof annwyl am Arthur ac Evelyn Evans)
Cysylltwch ag ysgrifennydd@dawnsio.cymru am fanylion hyfforddwyr dawns lleol
Dyddiad cau: 1 Mai 2026 am ganol dydd