Cyfle i unigolyn bortreadu un o gymeriadau enwog Cymru yn seiliedig ar gyflwyniadau gwreiddiol cwmni Mewn Cymeriad

Gofynion y gystadleuaeth:

  • Dylai’r pwyslais fod ar greu perfformiad ysgafn, sy'n dangos gallu’r unigolyn i ryngweithio’n hwylus gyda’r gynulleidfa a chyfleu’r stori’n glir
  • Uchafswm hyd y perfformiad fydd 5 munud, wedi'i seilio ar ddewis o sgriptiau Mewn Cymeriad
  • Caniateir gwisgoedd a phrops
  • Bydd yr enillydd cenedlaethol yn derbyn gwahoddiad i ymuno â chwmni Mewn Cymeriad ar gyfer gweithdy ymarferol i ddatblygu sgiliau ymhellach.

Sgriptiau ar gael drwy www.steddfota.cymru

Gwobrau:

  • £150 (Terwyn a Marged Tomos, Llandudoch; )
  • £120 (Shân Griffiths, er cof am ei rhieni, Hugh a Jennie Griffiths, Llandysilio, a’i brawd, Dyfed Griffiths, Clunderwen)
  • £90 (Mon a Meurig Davies, Mantawel, Llandysilio, Clunderwen)

Dyddiad cau: 1 Gorffennaf 2026 am ganol dydd

Rheolau ac amodau cyffredinol

Dangos

Amodau arbennig yr adran hon