Beirniaid: Luke McCall a Caitlin Drake
Perfformiad heb fod yn hwy na 5 munud.
Gellir defnyddio piano neu gyfeiliant addas neu drac cefndir, ond dylid cofio am anghenion technegol y llwyfan a’r rhagbrawf. Bydd y cystadleuwyr yn gyfrifol am eu cyfeilydd/ion eu hunain. Caniateir canu mewn unrhyw gyweirnod.
Dyma restr o ganeuon Sioe Gerdd i chi ystyried perfformio - ond, mae mwy!
Gwobrau:
- Ysgoloriaeth Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru (£1000) i’r enillydd a £150 (Cyfrifwyr Siartredig yn Rhuthun sy’n darparu ystod eang o wasanaethau cyfrifeg a threthiant ar gyfer busnesau ac unigolion.)
- £120
- £90
Dyddiad cau: 1 Mai 2025 am ganol dydd