Beirniaid: Gwilym Bowen Rhys a Lleuwen Steffan
Mae’r gystadleuaeth yn bartneriaeth rhwng Eisteddfod Genedlaethol Cymru (Tŷ Gwerin), a’r BBC ac yn ymgais i ddarganfod talent cerddoriaeth werin Gymraeg newydd.
Bydd y gystadleuaeth yn agored i fandiau neu artistiaid unigol sy’n perfformio cerddoriaeth werin. Gall y rhain fod yn offerynnol, lleisiol neu’n gyfuniad o’r ddau.
Diffinir gwerin fel caneuon ac alawon traddodiadol Cymreig neu ganeuon newydd yn y dull gwerinol.