Canlyniad:

1af Glanaethwy — BANGOR
2il Criw Yr Ynys — Bodedern
3ydd Criw Porthor — Pen Llyn (efo to bach ar yr Y)

Beirniaid: Catrin Angharad Jones, Linda’r Hafod ac Owain Siôn

‘Beth am gynnau tân …’ neu ‘Meini’

Gwobrau:

  1. Tlws Parti’r Ffynnon i’w ddal am flwyddyn a £350 (Teulu Tegfan, Llanbedrog)
  2. £250 (Gŵyl Pen Draw’r Byd, Aberdaron)
  3. £150 (Er cof am Alun Bontddu)

Rhaid cynnwys o leiaf dair elfen o blith y pump a nodir, sef alawon gwerin traddodiadol, cerdd dant, dawns, drama a llefaru i greu perfformiad dychmygus. Ni ddylai’r cyflwyniad fod yn hwy na 10 munud, yn cynnwys paratoi a chlirio’r llwyfan. Caniateir defnyddio symudiadau, gwisgoedd a mân offer llwyfan. Dylid uwchlwytho braslun o’r sgript erbyn 9 Mehefin. (Gwelir y gystadleuaeth hefyd yn adrannau Cerdd Dant, Dawns, Llefaru a Theatr)

Rheolau ac amodau cyffredinol

Dangos

Amodau arbennig yr adran hon