Y newyddion diweddaraf am yr Eisteddfod
20 Chwef 2023
Mewn gweithdy yn ddwfn yng nghanol Eifionydd mae Cadair Eisteddfod 2023 yn cael ei chreu o ddarn mawr trwm o goeden dderw a blannwyd ar ymyl y Lôn Goed dros 200 mlynedd yn ôl.
Mwy
13 Chwef 2023
Y Lôn Goed, y llwybr hanesyddol pwysig sy'n ffinio Llŷn ac Eifionydd yw canolbwynt Coron yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
5 Awst 2022
Un arall sy’n hanu o ddalgylch Eisteddfod y flwyddyn nesaf ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth y Gadair eleni, wrth i Llŷr Gwyn Lewis godi ar ei draed ar ganiad y Corn Gwlad yn seremoni olaf yr wythnos yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion.
4 Awst 2022
Gruffydd Siôn Ywain, sy’n wreiddiol o Ddolgellau, sy’n cipio Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion eleni.
3 Awst 2022
Sioned Erin Hughes o Foduan sy’n ennill y Fedal Ryddiaith eleni mewn cystadleuaeth a ddenodd 17 o ymgeiswyr.
Edward Rhys-Harry yw enillydd Tlws y Cerddor eleni, ac fe’i hanrhydeddwyd mewn seremoni arbennig ar lwyfan Pafiliwn heddiw.
2 Awst 2022
Meinir Pierce Jones yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen eleni, ac fe dderbyniodd yr anrhydedd mewn seremoni ar lwyfan y Pafiliwn heddiw.
1 Awst 2022
Esyllt Maelor yw enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion eleni. Daeth y bardd o Forfa Nefyn i’r brig mewn cystadleuaeth a ddenodd 24 o geisiadau.
30 Gorff 2022
Enillwyd Ysgoloriaeth Bensaernïaeth yr Eisteddfod Genedlaethol 2022 gan bensaer ifanc sy'n gweithio yng Nghanolbarth Lloegr ond sy'n hanu o Bowys.
Dyfarnwyd Yr Ysgoloriaeth Artist Ifanc yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022 i'r artist cerameg Elin Hughes o Ddolgellau.
Cerflunydd greodd pennau milwyr o fytholeg a chwedloniaeth sydd wedi ennill Y Fedal Aur am Grefft a Dylunio yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022.