Y newyddion diweddaraf am yr Eisteddfod
5 Awst 2019
Falyri Jenkins o Dal-y-bont, Ceredigion yw enillydd Medal Goffa Syr TH Parry-Williams er clod eleni. Cyflwynir y Fedal yn flynyddol i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol yn eu hardal leol, gyda phwyslais arbennig ar weithio gyda phobl ifanc.
Mwy
3 Awst 2019
Crochenwaith garw wedi’i ysbrydoli gan aber y Conwy a’r traethau cyfagos sydd wedi ennill Y Fedal Aur am Grefft a Dylunio i artist lleol.
Merch sy’n byw ar drothwy’r Eisteddfod sydd wedi cipio Ysgoloriaeth Artist Ifanc, Sir Conwy 2019. Dyfarnwyd y £1,500 a roddir gan Gyfeillion yr Academi Frenhinol Gymreig, Conwy, i artist amlgyfrwng o Ddolgarrog.
Blancedi argyfwng ffoil gyda phatrymau carthenni traddodiadol Cymreig sydd wedi ennill Y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019.
24 Tach 2018
Yn ei gyfarfod Cyngor yn Aberystwyth heddiw, cyhoeddwyd bod yr Eisteddfod yng Nghaerdydd eleni wedi denu mwy o ymwelwyr nag erioed o’r blaen, gyda nifer fawr yn ymweld am y tro cyntaf.
10 Awst 2018
Ac yntau wedi ennill stôl y Siwper Stomp ar lwyfan y Pafiliwn nos Lun, a’r brif wobr yn y Stomp Werin yn Nhŷ Gwerin nos Iau, ychwanegodd Gruffudd Eifion Owen Gadair i’w gasgliad brynhawn Gwener wrth iddo ddod i’r brig yn seremoni olaf yr wythnos yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.
9 Awst 2018
Mellt sy’n derbyn Tlws Albwm Cymraeg y Flwyddyn eleni am eu halbwm Mae’n Hawdd Pan ti’n Ifanc.
Rhydian Gwyn Lewis sy’n cipio Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd eleni.
8 Awst 2018
Tim Heeley yw enillydd Tlws y Cerddor eleni, ac fe’i hanrhydeddwyd mewn seremoni arbennig ar lwyfan Pafiliwn HSBC heddiw.
Dysgwr y Flwyddyn eleni yw Matt Spry.
Manon Steffan Ros sy’n ennill y Fedal Ryddiaith eleni mewn cystadleuaeth a ddenodd bedair ar ddeg o ymgeiswyr.
7 Awst 2018
Mari Williams o Gaerdydd yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen eleni, ac fe dderbyniodd yr anrhydedd mewn seremoni ar lwyfan y Pafiliwn heddiw.