Y newyddion diweddaraf am yr Eisteddfod
11 Awst 2023
Heddiw ar Faes yr Eisteddfod, lansiodd yr Eisteddfod Sgwrs i glywed barn a syniadau er mwyn cynllunio’r gwaith ar gyfer y cyfnod nesaf
Mwy
Enillwyr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2023 yw Pedair am eu halbwm, Mae ‘Na Olau
Alan Llwyd sy’n ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd eleni
Cyflwynir Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol eleni i'r Athro Alan Shore, am ei gyfraniad hyd-oes i electroneg digidol a'r newidiadau pellgyrhaeddol ym myd cyfrifiaduraeth a chyfathrebu
Am un noson yn unig, bydd Maes B, gŵyl gerddorol yr Eisteddfod Genedlaethol i bobl ifanc, yn cael ei thrawsnewid ar gyfer sioe theatraidd ymdrochol newydd sbon
10 Awst 2023
Cai Llewelyn Evans sy’n cipio Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd eleni
9 Awst 2023
Meleri Wyn James o Aberystwyth sy’n ennill y Fedal Ryddiaith eleni mewn cystadleuaeth a ddenodd 16 o ymgeiswyr
Dysgwr y Flwyddyn eleni yw Alison Cairns o Lannerchymedd
8 Awst 2023
Alun Ffred yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen eleni, ac fe dderbyniodd yr anrhydedd mewn seremoni ar lwyfan y Pafiliwn Mawr heddiw
7 Awst 2023
Rhys Iorwerth yw enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd eleni. Daeth y bardd o Gaernarfon i’r brig mewn cystadleuaeth a ddenodd 42 o geisiadau
Enillwyd Coron Eisteddfod 2023 gan Rhys Iorwerth
Wrth dderbyn Tlws yr Eidalwyr ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llŷn ac Eifionydd, heddiw (7 Awst), cyhoeddodd y Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, mai tref Pontypridd fydd cartref yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf